Goleuadau Llundain
Quelle: Spotify
Ma' waliau'r crud yn dymchwel,
ma' dy wen yn cuddio mwy.
Poteli gwag o nghwmpas
yn gofyn am y pwy…
Mae'r ddinas fawr yn galw,
y lleisiau ar y gwynt.
Mewn moment eiliad tawel,
a'r chwalu yw'r uchafbwynt.
Ond be sy na i ddod?
Anwybyddwch goleuadau Llundain,
ma' na pethe gwell i ddod.
Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain,
dwi'n gwybod, dwi 'di bod.
Ffenestri gwag sy'n lliwio'r cynfas,
tywyllwch cysglyd, tywyllwch sydd
dan y ddaear ar y traciau
yn 'y myd bach tawel, cudd.
Ond be sy na i ddod?
Anwybyddwch goleuadau Llundain,
ma' na pethe gwell i ddod.
Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain,
dwi'n gwybod, dwi 'di bod.
Anwybyddwch goleuadau Llundain,
ma' na pethe gwell i ddod.
Cyfrinachau sy'n fflamio Llundain,
dwi'n gwybod, dwi 'di bod,
dwi'n gwybod, dwi 'di bod.
Zeige deinen Freunden, dass dir Goleuadau Llundain von Daniel Lloyd A Mr Pinc gefällt:
Kommentare