Strydoedd Aberstalwm Songtext - Bryn Fon

Strydoedd Aberstalwm - Bryn Fon

Rhwng y môr a'r mynydd ymhell, bell yn ôl
ar noson braf yn y gwanwyn,
Ma'r hogia' ar y sgwâr yn eu sgidia' rock and roll
a bys Pwllheli ar gychwyn.
Daw'r goleuadau ymlaen fesul un,
Mae'n glyd ym mar cefn y Royal,
Dwi'n gweld yn glir lawr y llwybr hir
i strydoedd Aberstalwm,
Amser maith yn ôl.

Daw Johnny Paul Papura i agor ei siop,
A corn y ffatri yn canu,
Elvis ar y weirles a'r plant yn dal y trên
a gwlith y nos yn diflannu.
Ac wrth i weithwyr y nos hel eu pac
am adra a panad a gwely,
Ma' sŵn 'u traed yn cyflymu'r gwaed
ar strydoedd Aberstalwm,
Amser maith yn ôl.

Ma' bloda' mân y morfa yn gwyro yn y gwynt,
A chân y curlew yn cario,
I lawr at Ynys Fach lle ma' plant o Adwy Ddu
yn hela lledod a nofio.
Ma'r garrag atab yng nghysgod y Gwaith
yn chwyddo a chwara' a chwerthin,
Dyddia' hir dan yr awyr glir
ar draethau Aberstalwm,
Amser maith yn ôl.

Caneuon roc a motown ar y jiwcbocs yn caff
a blas y mŵg yn y coffi,
Lle ma' Cliff a Rich a Sheila a Janice yn ca'l laff,
A neb yn poeni am yfory.
Ma' Duw yn byw yn y capal ar y rhiw
a'r Diafol ym mar cefn y Royal,
A hogia' ni yn eu lledar du
ar strydoedd Aberstalwm,
Amser maith yn ôl,
Amser maith yn ôl.


Video: Strydoedd Aberstalwm von Bryn Fon

Teilen

Zeige deinen Freunden, dass dir Strydoedd Aberstalwm von Bryn Fon gefällt:

Kommentare